6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 10 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:12, 10 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n dal i fod ychydig yn ddryslyd, fodd bynnag, oherwydd eich bod yn cynnal adolygiad, ac mae'r comisiynydd wedi gofyn i chi gynnal adolygiad, ond dyma'r argymhelliad y mae eich ymateb ysgrifenedig yn dweud eich bod yn ei wrthod. Efallai y gallwch chi egluro—. Rwy'n credu bod a wnelo fy mhryder ynghylch a oedd yn fath gwahanol o adolygiad neu a oedd hi'n gofyn am rywbeth gwahanol i'r hyn yr ydych chi'n ei wneud. A doeddwn i ddim yn gallu gweld hynny yn ei hadroddiad nac yn eich ymateb chi, felly dim ond tybio oeddwn i. Rydym ni'n edrych am ychydig o eglurder ynghylch hynny oherwydd ymddengys i mi, mewn gwirionedd, eich bod yn derbyn yr argymhelliad, yn rhannol o leiaf.