Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 10 Rhagfyr 2019.
Diolch am ildio, Julie. Cytunaf yn llwyr â'r hyn yr ydych newydd ei ddweud am bwysigrwydd ysgolion yn cofnodi data o ran bwlio, ond a fyddech chi hefyd yn cytuno, er mwyn sicrhau tryloywder, ei bod hi'n bwysig nad cael ei gofnodi'n unig y bydd data ond y dylai fod ar gael i rieni petaent yn gofyn amdano fel ein bod yn cael darlun cywir o fwlio, ac, yn bwysicach, y mathau o fwlio sy'n digwydd mewn gwahanol ysgolion? Oherwydd gallai'r achosion hynny amrywio o ardal i ardal a bydd angen ymateb penodol, yn dibynnu ar y sefyllfa benodol.