Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb calonogol. A gaf fi ddweud, Weinidog, fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynnal cynhadledd ryngwladol y mis diwethaf o dan yr enw 'Rheoli’r Tanwydd: Lleihau’r Risg', er mwyn edrych ar beryglon tanau gwyllt? Roedd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar arferion rheoli tir rhyngwladol a rhai gwersi gwerthfawr iawn. Mae prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru hefyd yn ceisio ailwlychu hen fawnogydd mewn ardaloedd a elwir, yn ddeniadol iawn, yn 'Alpau Morgannwg', felly rwy'n gobeithio y byddwch yn talu sylw i'r datblygiadau hyn.