Mawndiroedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:51, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu cais prosiect llwyddiannus i'r Loteri Genedlaethol i adfer mawndiroedd yng nghwm Afan uchaf a draw i ardal Rhondda Cynon Taf ger Glyncorrwg? Fel y gwyddoch, gall fod yn rhan o alpau Morgannwg, fel y dywedodd David Melding. A wnewch chi edrych hefyd, felly, ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r prosiect hwnnw, gan eich bod newydd ddweud eich bod yn edrych ar y rhaglen fawndiroedd gyfan ar gyfer 2020, ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol mewn ardal sydd eisoes yn mynd i fod yn gweithio ar ddatblygu mawndiroedd?