Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rheoli coedwigaeth yn amlwg yn faes eang, ond mae hefyd yn cynnwys ystyried cynaeafu ac ailblannu rhannau o'r goedwigaeth. Pan fyddwn yn sôn am gynaeafu, mae angen i ni geisio sicrhau hefyd nad ydym yn gadael sbwriel ar lawr, a'n bod yn defnyddio'r pren yn effeithiol ac yn effeithlon, gan fod llawer o fusnesau'n dibynnu ar rywfaint o'r pren hwnnw. Yn fy etholaeth i, gwelaf drenau'n mynd i ogledd Cymru o dde Cymru gyda boncyffion wedi'u pentyrru arnynt. Felly, y cwestiwn y buaswn yn gobeithio y byddech yn edrych arno yw: sut y gallwn gefnogi busnesau lleol i gael mynediad at goed a phren o ardaloedd coedwigaeth lleol pan fyddant yn cael eu cynaeafu, yn hytrach na gorfod anfon y pren hanner ffordd ar draws Cymru, ac weithiau, yr holl ffordd ar draws Cymru, a chynyddu ein hôl troed carbon o ganlyniad i hynny, pan allwn leihau’r ôl troed carbon drwy gael mynediad at fusnesau lleol, at y goedwigaeth, ei chwympo a'i hailblannu, a sicrhau wedyn fod y busnesau sy’n defnyddio'r pren hwnnw hefyd yn lleol?