Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Fel y dywedwch, mae'r cynllun rheoli yn cynnwys cryn dipyn o ailblannu, ac yn ôl ym mis Hydref, roeddech yn swnio'n gadarnhaol iawn ynghylch y syniad o CNC ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd fel y gallai plant ddysgu plannu coed fel rhan o'u haddysg ehangach. Fel y mae'n digwydd, ar yr union ddiwrnod hwnnw, cyfarfu Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, â CNC i drafod eco-lythrennedd, a chytunodd fod yr awgrym, a dyfynnaf, yn 'syniad gwych', i gyfrannu at y gwaith hwnnw ar eco-lythrennedd. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ers hynny gyda CNC, yn enwedig ynglŷn â sut y gall rheoli coedwigaeth ac ailgoedwigo chwarae rhan yn yr eco-lythrennedd hwnnw? A yw'n glir eto gyda phwy y dylai CNC siarad er mwyn iddynt allu dylanwadu ar gwricwla lleol? Mae arnaf ofn efallai na fyddwch yn gallu ateb y rhan olaf honno, a bod yn deg.