Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Rydym yn cefnogi busnesau bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i ddod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac wedi'u rheoli'n broffesiynol. Bydd y Ganolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch newydd ym Mrychdyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a agorodd ym mis Tachwedd, yn bwysig iawn ar gyfer datblygu ymchwil ac arloesedd yn y diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru yn y dyfodol.