Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu llawer o gefnogaeth i bobl sy'n ddigartref, ond fel y gŵyr pob un ohonom, mae gormod o lawer o bobl yn cysgu ar y strydoedd a gormod lawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble y byddant yn cysgu heno, ac maent yn gobeithio y bydd ffrind neu berthynas yn rhoi llety iddynt. Mae honno'n sefyllfa wael inni fod ynddi yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai'r unig ateb hirdymor i ddigartrefedd yw adeiladu tai cyngor ar raddfa'r 1950au a'r 1960au, sy'n cynnwys Llywodraethau Ceidwadol? Deallaf o ddarllen papurau lleol yn ddiweddar fod Harold Macmillan, yn ôl pob sôn, wedi'i ddisgrifio fel Marcsydd.