Cefnogi Pobl Ddigartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:13, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Gofynnodd Mohammad Asghar, wrth agor hyn, i’r Gweinidog edrych ar achosion sylfaenol digartrefedd, a buaswn yn ymestyn hynny i gynnwys cysgu allan hefyd. Dywedodd Shelter, mewn astudiaeth yn gynharach y mis hwn, er gwaethaf, mae'n rhaid imi ddweud, er gwaethaf y mesurau a oedd yn cael eu cymryd mewn lleoedd fel Cymru a'r Alban, y bydd cymaint â 4,000 neu fwy o blant yn cael eu gwneud yn ddigartref erbyn 25 Rhagfyr. A hoffai'r Gweinidog ehangu ar yr hyn y mae hi'n ei ddeall yw'r achosion sylfaenol sy'n golygu, er gwaethaf ein hymyriadau gorau, fod digartrefedd a chysgu allan, gan gynnwys ymhlith plant a phobl ifanc, bellach yn cynyddu'n ddiwrthdro?