Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:17, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, efallai y byddwch wedi sylwi y bydd etholiad cyffredinol yn digwydd cyn bo hir, ond o gofio hynny, daeth yn amlwg fod myfyrwyr yng Nghaerdydd wedi cael gwybod na fyddant yn gallu pleidleisio yfory oherwydd camgymeriad gweinyddol heb unrhyw fai arnynt hwy. Dywedir wrthyf fod cyngor Caerdydd wedi cyfaddef nad ydynt wedi mynd i'r afael hyd yma â'r oddeutu 200 o'r 1,000 o bobl a roddodd gyfeiriadau annilys wrth gofrestru. Felly, ar y cam hwyr hwn, beth y gallwch ei wneud fel Gweinidog i geisio unioni'r sefyllfa anffodus hon?