Cefnogi Pobl Ddigartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:08, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, ond mae Deddf Crwydradaeth 1824 yn dyddio'n ôl i 1824 ac yn gwneud cysgu allan neu gardota yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'r Ddeddf hon yn gwneud unrhyw beth i ddatrys achosion sylfaenol digartrefedd, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o wthio rhywun ymhellach oddi wrth y gwasanaethau hanfodol sy'n eu helpu oddi ar y strydoedd. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi na ddylai unrhyw un gael eu troseddoli am fod yn ddigartref neu'n ddiymgeledd? A pha gamau a gymerwch i ddiddymu'r Ddeddf crwydradaeth yng Nghymru?