Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am hynny. Gan ddychwelyd at faterion tai a chysgu allan, fel y gwyddoch, mae'r grant cymorth tai yn hanfodol i alluogi amryw asiantaethau, fel Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru i ddarparu'r gwasanaethau sydd mor werthfawr wrth fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan ar ein strydoedd, ond serch hynny, mae cyllid ar gyfer cymorth sy'n gysylltiedig â thai wedi gostwng £37 miliwn yng Nghymru ers 2012 mewn termau real, yn ôl adroddiad diweddar. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynyddu'r grant cymorth tai yn y cylch cyllidebol nesaf?