Cefnogi Pobl Ddigartref

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:09, 11 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi nodi nad yw 77 y cant o'r plant sy'n profi cam-drin domestig wedi cael cefnogaeth gan wasanaeth arbenigol. Nawr, gŵyr pob un ohonom fod cam-drin domestig yn un o'r ffactorau a all achosi digartrefedd, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi canfod na fu modd rhoi llety mewn lloches i 512 o oroeswyr, gyda llawer ohonynt â phlant wrth gwrs, oherwydd diffyg lle. Dyna 512 o oroeswyr a'u dibynyddion yn cael eu gorfodi i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl dianc o amgylchedd peryglus. A ydych yn derbyn nad yw hyn yn ddigon da ac a wnewch chi roi addewid cadarn inni y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pawb sy'n ceisio cymorth mewn lloches yn y dyfodol yn ei gael? Ac er mwyn cyflawni hyn, a wnewch chi ystyried ehangu'r cymhwysedd i blant dan 16 oed sy'n byw mewn llochesi ac edrych ar ba gyllid grant cymorth tai y gellir ei alinio â chyllid grant cymunedol a phlant i sicrhau bod pob plentyn yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig yn cael cymorth digonol?