Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am hynny, gan fod ystadegau gan y Wallich yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu allan ar strydoedd Abertawe, a phan wyf wedi bod allan gyda'r daith cawl i'r digartref—ac mae Leanne wedi bod allan hefyd ar y daith cawl i'r digartref yn Abertawe—mae'r dystiolaeth yn amlwg, mewn gwirionedd. Mae'n arbennig o drist wrth agosáu at y Nadolig, fel rydym ar hyn o bryd. Felly, gyda'r addewid o wariant cyhoeddus gwyllt gan bwy bynnag sy’n ennill yr etholiad cyffredinol yfory, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau bod atal digartrefedd yn flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniadau gwariant yn y dyfodol?