Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Wel, Mark Isherwood, fel arfer, chi yw'r un nad yw'n deall y ffordd sylfaenol y mae economeg y setliad llywodraeth leol yn gweithio. Mae Cymru wedi cael ei thanariannu gan y Llywodraeth Geidwadol am y naw mlynedd ddiwethaf. Hyn a hyn o arian yn unig sydd gennym—llai o lawer nag y dylem ei gael er mwyn ei rannu. Caiff y pot hwnnw ei rannu drwy brosesau democrataidd CLlLC. Rydym yn cynnal cyfarfodydd cyswllt â phob un ohonynt, drwy'r amser. Mae arweinwyr y cynghorau y soniwch amdanynt yn bresennol yn llawer o'r cyfarfodydd hynny. Rwyf wedi cyfarfod â phrif weithredwyr ac arweinwyr pob cyngor yng Nghymru. Rwy'n fwy na pharod i ystyried unrhyw awgrym y maent am ei gynnig eto. Nid wyf yn gwybod sawl gwaith—. Nid oes ots os ydych yn chwifio darnau o bapur ataf. Nid wyf yn gwybod sawl gwaith y mae'n rhaid i mi ddweud yr un peth wrthych. Efallai y dylech wrando.