Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fy nghais yn gymharol syml. Rwy'n deall i chi nodi, mewn cyfarfod pwyllgor, yr hoffech ymweld â'r bloc fflatiau, a byddai'r preswylwyr yn awyddus iawn i'ch croesawu ar ymweliad o'r fath. A allwch nodi p'un a fydd ymweliad o'r fath yn digwydd mewn gwirionedd, ac unrhyw adegau yn y dyddiadur y gallech fod wedi sicrhau eu bod ar gael fel y gallent gyfarfod â chi, oherwydd yn amlwg, mae'r materion yn bwysig? Gwnaed rhywfaint bach o gynnydd ar rai o'r materion, ond mae oddeutu 450 o breswylwyr pryderus iawn yn y bloc penodol hwnnw. Rwy'n derbyn bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, ond gan eich bod wedi nodi parodrwydd i ymweld, a allech roi syniad p'un a allai'r ymweliad hwnnw ddigwydd cyn y Nadolig?