Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Lywydd, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, gan fy mod yn byw yn y cyfadeilad hwn fy hun, a gwn fod sawl Aelod Cynulliad yn byw yno, a'u staff. Yr hyn sy'n fy synnu i yw'r diffyg gwybodaeth llwyr am hyn. Ni chafwyd unrhyw ohebiaeth drwy'r blwch llythyrau yn y fflatiau nac unrhyw beth felly, ni chafwyd unrhyw hysbysiad ynghylch cyfarfodydd, ni chafwyd unrhyw newyddion ar wahân i'r hyn a glywaf yn y Siambr hon. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn â sut y caiff preswylwyr, gyda llawer ohonynt yn rhentwyr, eu hysbysu ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Hoffwn glywed eich barn ar hyn, os gwelwch yn dda.