Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Nid wyf am ailadrodd rhai o'r argymhellion y mae pobl wedi sôn amdanynt eisoes, ond hoffwn ddweud bod hwn yn ymchwiliad gwirioneddol bwysig a wnaethom ar fancio yma yng Nghymru. Adleisiaf rai o'r sylwadau a wnaethpwyd ynglŷn â pham fod gan bob un ohonom ddiddordeb yn y mater hwn, oherwydd mae canghennau'n cau ar hyd a lled Cymru, sy'n atal pobl sy'n agored i niwed rhag cael mynediad at wasanaethau yn ogystal ag atal pobl, yn gyffredinol, rhag cael mynediad wyneb yn wyneb.
Credaf ei bod braidd yn eironig fod y banciau'n dweud eu bod am symud i wasanaethau ar-lein, oherwydd pan fyddwch eisiau cael morgais, neu os ydych eisiau am i drafodion go bwysig gael ei wneud, os oes angen iddynt drafod pethau ymhellach gyda chi, maent bob amser yn gofyn i chi alw i mewn i gangen. Os yw hynny'n golygu teithio, gall olygu cryn bellter i lawer o bobl, ac felly byddai'n dda gennyf pe baent yn ceisio cyfleu eu strategaeth yn well. A yw'r gwasanaeth ar-lein neu a yw mewn canghennau? Os ydynt yn benderfynol o wneud mwy ar-lein, oni allant symud mwy o'u gwasanaethau i'w gwneud yn haws i'r bobl sydd eisiau eu defnyddio ar-lein?
Roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod wedi nodi wrth y sector bancio mewn rhai o'r sesiynau craffu eu bod yn gwneud elw enfawr ac yna'n dweud wrthym na allant fforddio cadw canghennau ar agor. Felly, mae HSBC wedi gwneud elw, a ffigurau mis Mehefin 2019 yw'r rhain, o £11.8 biliwn; Lloyds—£4.3 biliwn; Barclays—£2.4 biliwn. Elw cyfunol o £22 biliwn, ac maent yn dweud wrthym na allant fforddio cadw canghennau yn Llanystumdwy, Bethesda, Rhondda neu Gastell-nedd ar agor. Nid wyf yn credu hynny. Maent yn dweud ei fod yn rhan wahanol o'r cwmni, ond diwedd y gân yw ei fod yn ymwneud â'r elw i'w cyfranddalwyr, a dyna lle maent yn cyfeiliorni'n llwyr, felly nid oes gennyf lawer o gydymdeimlad â hwy, os o gwbl, yn hynny o beth.
Mae argymhelliad 10 yn un rwy'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n sôn am gynhwysiant digidol, cynhwysiant ariannol, nid yn unig i bobl ifanc mewn ysgolion, ond i bobl yn gyffredinol. Gwn, er enghraifft, pe bai gan bob un ohonom allu i ddeall ein harian yn llawer iawn gwell, efallai na fyddai angen inni fynd i'r banc, neu efallai na fyddai angen inni fynd i ddyled mor eithafol, oherwydd byddai'r gallu gennym eisoes i ddeall yr adnoddau a fyddai gennym. Felly, rwy'n ddiolchgar fod newidiadau'n mynd i gael eu gwneud i'r broses addysg, ond nid wyf yn deall sut y bydd hynny'n digwydd heb unrhyw adnoddau o gwbl. Mae'n sicr y bydd angen ychydig bach mwy o adnoddau i roi mesurau newydd ar waith ar gyfer addysg ariannol o dan Donaldson, felly mae hynny'n peri ychydig o ddryswch i mi.
Gwyddom hefyd fod cynlluniau cynhwysiant ariannol wedi bod ar y gweill er 2016, ond hoffwn weld gwaith craffu'n digwydd ar y cynlluniau cynhwysiant ariannol hynny, oherwydd mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhyfeddol, ond nid yw rhai awdurdodau lleol yn gwneud dim i sicrhau bod eu pobl yn manteisio ar gyrsiau neu raglenni cynhwysiant ariannol a fydd o fudd iddynt.
Yr argymhelliad arall roeddwn eisiau canolbwyntio arno, ac mae wedi cael ei grybwyll gryn dipyn heddiw, yw cysyniad Banc Cambria, y banc cymunedol. Rwyf wedi gweithio'n eithaf caled gydag Undeb Credyd Celtic yng Nghastell-nedd Port Talbot. Maent yn eithaf pryderus am rywfaint o'r dyblygu a allai ddigwydd pe bai Banc Cambria yn cael ei sefydlu. Nawr, rwy'n cefnogi'r cysyniad o fanc cymunedol, rydym yn cefnogi'r cysyniad hwnnw fel plaid, ond y cyfan a ddywedaf yw bod angen inni sicrhau bod unrhyw fanc cymunedol newydd yn gweithio ar y cyd, yn gweithio mewn cytgord, â'r sector undebau credyd. Maent yn rhoi benthyciadau, maent yn helpu pobl yn eu cymunedau. Nid ydym eisiau gweld y rhwydwaith hwnnw'n cael ei fygwth gan unrhyw fanc cymunedol newydd.
Credaf mai mater arall roeddwn eisiau ei ystyried, yn deillio o'r hyn a ddywedodd Russell George, oedd cyllid unrhyw fanc cymunedol newydd. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £600,000 i gefnogi'r arian cychwynnol neu'r arian sbarduno ar gyfer Banc Cambria, ond maent yn dweud wrthym y byddai'n costio £20 miliwn i sefydlu Banc Cambria gyda'r holl reoliadau ac ati. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio'n fanwl at yr arian sbarduno, ac yn dweud,
'nid yw’r holl fuddsoddiad yn debygol o fod yn fwy na £600,000'.
Fodd bynnag, roedd adroddiad y pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro lefel y cymorth y mae'n rhagweld y bydd yn ei gynnig i'r banc cymunedol yn y dyfodol. Ond buaswn yn awgrymu y gallai ymateb Llywodraeth Cymru fod yn gliriach. Er enghraifft, a dyfynnaf o ymateb Llywodraeth Cymru,
'Y buddsoddiad cychwynnol a gynigir i Fanc Cambria yw profi dichonoldeb a phrawf o’r cysyniad yn y cam cyntaf er mwyn galluogi'r banc i ymgysylltu â’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) gyda’r bwriad o gael caniatâd i sefydlu banc; nid yw wedi cyrraedd y cam o ddarparu'r buddsoddiad mwy sylweddol y bydd ei angen i gyfalafu'r banc os bydd yn llwyddo i gael trwydded fancio.'
Nawr, mae geiriad y frawddeg olaf ychydig yn aneglur, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru. A ydych yn agor y drws i fwy o fuddsoddiad yn y dyfodol? Mae £600,000 yn dân siafins o'i gymharu â'r £20 miliwn sydd ei angen, a buaswn yn meddwl y byddai Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a oes gennyf amser.