Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 11 Rhagfyr 2019.
Lywydd, mae wedi bod yn bleser gwrando ar y cyfraniadau y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Russell George am gadeirio ymchwiliad y pwyllgor i fynediad at fancio, yn ogystal ag Aelodau ei bwyllgor wrth gwrs. Mae'n amlwg fod llawer o ymdrech wedi mynd i gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn, gan ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol, a hoffwn ddiolch i bob aelod o'r pwyllgor am eu gwaith caled.
Fel y noda adroddiad y pwyllgor, nid yw colli banciau a'r gwasanaethau a gynigiant i ddinasyddion ac i fusnesau o'n strydoedd mawr yn broblem newydd. Fodd bynnag, mae graddau'r cau yn dal i waethygu ar raddfa frawychus, a chlywsom am nifer o gymunedau heddiw sydd wedi colli eu banciau stryd fawr yn ddiweddar oherwydd bod banciau traddodiadol yn cilio o bob cymuned ledled Cymru, a dyma pam y cynhwyswyd yr ymrwymiad, gan weithio gyda rhanddeiliaid, i archwilio'r egwyddor a sefydlu banc cymunedol i Gymru ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog.
Fel y cadarnhaodd y Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn, mae'r bartneriaeth a grëwyd gan Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, ac mae asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill, gyda mewnbwn gan Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn yr adroddiad hwnnw.
Nawr, rwy'n nodi bod gan y pwyllgor rai pryderon ynglŷn â dichonoldeb y cynnig bancio cymunedol a'i effaith bosibl ar undebau credyd yn arbennig, ond mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau bod undebau credyd a'r banc cymunedol a chymdeithasau adeiladu'n cydweithio i ddod o hyd i'r atebion gorau i wella mynediad at wasanaethau bancio. Ac mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau cynhwysiant ariannol i bawb ym mhob rhan o'n gwlad.
Nawr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfarfod â rhwydwaith undebau credyd Cymru i archwilio cyfleoedd i gydweithio lle bynnag y bo modd. Gall cau banciau a cholli peiriannau ATM am ddim mewn cymunedau effeithio'n negyddol ar lawer o bobl, ond yn enwedig ar y rheini sy'n agored i niwed ac wedi'u hallgáu'n ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau nad yw pobl ar incwm isel, yr henoed a phobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Er y gallai bancio ar-lein a thrafodion heb arian parod fod yn opsiwn i lawer, rhaid inni beidio ag anghofio y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd, a bydd angen i grwpiau mwy agored i niwed gael mynediad at arian parod neu at ganghennau o fanciau yn lleol o hyd.
Nawr, ein gweledigaeth ar gyfer cynhwysiant ariannol yw i bawb sy'n byw yng Nghymru allu cael mynediad at wasanaethau ariannol priodol a fforddiadwy. Ac mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn gywir fod llawer o elfennau'r mater hwn wedi'u cadw'n ôl gan Lywodraeth y DU. Nawr, sylwaf fod y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU a'r grŵp JACS i adolygu a yw'r safon mynediad at fancio yn ddigon cadarn i fynd i'r afael ag effaith cau banciau ar bobl sy'n agored i niwed, ar fentrau bach a chanolig a chymunedau lleol. Fodd bynnag, rydym wrthi'n chwilio, a byddwn yn parhau i chwilio, am gyfleoedd i ymgysylltu ac i ddylanwadu ar lefel y DU. Rhaid i ni sefydlu sianeli cyfathrebu clir lle gallwn sicrhau bod anghenion penodol dinasyddion Cymru yn cael eu clywed, ac yn cael eu diwallu wedyn hefyd.