4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 7 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:44, 7 Ionawr 2020

Beth sydd gennym ni yn y gyllideb yma yn syml iawn, dwi'n ofni, ydy cyfle wedi cael ei golli. Oes, mae yna ragor o arian ar gael i wario ar wasanaethau cyhoeddus. Ydyn, mi rydyn ni mewn sefyllfa lle mae pob pennawd, dwi'n credu, o wariant y Llywodraeth yn gweld cynnydd. Ac ar ôl degawd o dorri parhaus yn y mwyafrif llethol o feysydd, ydy, mae hynny yn rhyddhad. Ond, beth sydd yn fy siomi i a ni ar y meinciau yma fwy na dim ydy diffyg arwydd bod y Llywodraeth Lafur yma yn barod i ddefnyddio'r cyfle yma i newid cyfeiriad gwirioneddol, i newid diwylliant mewn unrhyw ffordd sylweddol neu i feddwl yn wirioneddol yn yr hir dymor. Beth sydd gennym ni yma ydy cyllideb arall sy'n rheoli ond yn dangos, mewn gwirionedd, dim dychymyg nac arloesedd.