Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 8 Ionawr 2020.
Diolch, Weinidog. Ym mis Rhagfyr y llynedd, cynhaliwyd digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol newydd yng Nghasnewydd. Roedd yn llwyddiant ysgubol ac roeddwn yn hynod falch o weld y digyffelyb Alun Wyn Jones yn ennill y brif wobr.
Yn dilyn hyn, rwyf wedi ysgrifennu at y BBC a'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yn eu hannog i ystyried y lleoliad ar gyfer cynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU. Mae tri o'r 13 o bersonoliaethau chwaraeon diwethaf y DU wedi bod yn Gymry, serch hynny, nid yw'r digwyddiad erioed wedi'i gynnal yng Nghymru, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i beidio â gwneud hynny. Felly, nawr yw'r amser i unioni hyn.
Mae Casnewydd, ynghyd â'r Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, yn lle perffaith i gynnal digwyddiad personoliaeth chwaraeon y flwyddyn y DU y BBC, ac mae ganddi botensial enfawr ar gyfer digwyddiadau tebyg a'r buddion a ddaw yn eu sgil. A allwch roi eich cefnogaeth a dwyn perswâd er mwyn dod â'r digwyddiad i Gasnewydd a Chymru?