Ffoaduriaid sy’n Blant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd Gweinidogion Cymru at yr Ysgrifennydd Cartref yn cefnogi cadw hawliau aduniad teuluol ar gyfer plant sy'n ffoaduriaid. Rwy'n gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i gefnu ar ei hymrwymiadau blaenorol yn y maes hwn, a phwysaf ar Dŷ'r Arglwyddi i gefnogi gwelliannau sy'n diogelu hawliau plant agored i niwed i gael bywyd teuluol.