Ffoaduriaid sy’n Blant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:36, 14 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid yw'r un o'r pwyntiau hynny'n berthnasol i amddiffyn ffoaduriaid sy'n blant, sef testun y cwestiwn hwn. Nid oes amheuaeth bod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yn bwyntiau priodol ac yn rhai y gall ef fynd ar eu trywydd. Ond nid wyf i'n credu y dylai geisio herwgipio cwestiwn sy'n ymwneud â mater pwysig iawn, am ffoaduriaid sy'n blant yn benodol, yr wyf i wedi ceisio ei ateb y prynhawn yma.