Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Ionawr 2020.
Rwy'n siomedig iawn i glywed y codi bwganod gan eich meinciau cefn, ac, yn wir, gan eich Llywodraeth heddiw, ar y mater pwysig iawn a sensitif iawn hwn. Fel yr ydych chi wedi ei ddweud yn gwbl eglur eisoes, nid yw safbwynt polisi Llywodraeth y DU o ran ffoaduriaid sy'n blant wedi newid o gwbl, ac mae Llywodraeth y DU yn dal i ddymuno cynnal yr ymrwymiad y mae eisoes wedi ei wneud, a ail-bwysleisiwyd yn Nhŷ'r cyffredin yr wythnos diwethaf hefyd. Fel y gwyddoch, y rheswm pam y pleidleisiwyd yn erbyn y gwelliant hwnnw, ac y pleidleisiwyd yn erbyn gwelliannau eraill i Fil y cytundeb ymadael, oedd oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, nid yw eu hatodi i'r Bil hwnnw'n ddigonol o ran pwysigrwydd y polisi hwn. A dyna pam mae Llywodraeth y DU wedi dweud, 'Gadewch i ni fynd i'r afael â hyn ar wahân mewn ffyrdd eraill yn hytrach na dim ond ei atodi i ddiwedd y Bil hwn.' A ydych chi'n gresynu'r codi bwganod gan eich meinciau cefn a'r codi bwganod gan eich Llywodraeth, ac a wnewch chi gydnabod yr ymrwymiadau eglur iawn a wnaed gan y Llywodraeth o ran y polisi a ddatganwyd ganddi?