Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 14 Ionawr 2020.
Llywydd, rydym ni'n annog pawb i ddysgu cymorth cyntaf. Cyfrifoldeb ysgolion yw penderfynu os dylen nhw ddarparu addysg cymorth cyntaf i'w disgyblion a'r ffordd orau o wneud hynny. Bydd y canllawiau statudol a fydd yn gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd yn darparu y dylai dysgwyr allu ymateb i sefyllfaoedd niweidiol ac ymyrryd yn ddiogel pan fo iechyd pobl eraill mewn perygl.