Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 14 Ionawr 2020.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar adnoddau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n cael llawer o e-byst gan etholwyr, boed hynny'n gleifion, yn aelodau o'r teulu neu'n staff sydd, yn seiliedig ar eu profiad eu hunain, yn dymuno rhannu awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwella gwasanaethau yn y Bwrdd Iechyd. Rwy'n dyfynnu un o'r rhain, a ddaeth i law y mis hwn:
'Ychydig cyn y Nadolig, aeth fy ngŵr yn sâl gyda haint difrifol ar ei frest a ddatblygodd i fod yn niwmonia. Cafodd ei dderbyn dair gwaith i'r adran achosion brys. Yn y diwedd, ar y trydydd achlysur, cafodd ei dderbyn i'r uned dibyniaeth fawr lle cafodd ofal rhagorol. Fodd bynnag, y ffaith yw, ar dri achlysur, yn fy marn i fel nyrs gofrestredig, ni chafodd ei brysbennu'n dda. Roedd metron yr uned yn gweithio'n galed iawn i symud cleifion drwy'r adran ac roedd hi'n cyflwyno'i hun i gleifion, ond nid oedd yn ymddangos bod ganddi lawer o gymorth staff iau. Ymddiheurodd am gyflwr yr adran, a oedd yn amlwg dan ormod o bwysau. Gobeithio y bydd hi’n cael yr amser a'r adnoddau i roi trefn ar yr adran hon. A allwch chi wneud rhywbeth i'w helpu drwy ofyn i Lywodraeth Cymru roi mwy o adnoddau i Glan Clwyd ar frys? Nid dim ond drwy daflu arian at y broblem, ond drwy wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei wario i sicrhau bod gwelyau ar gael yn y prif ysbyty a hefyd yn yr ysbytai cymunedol, fel nad yw pobl yn meddiannu gwelyau yn y sector aciwt pan mai gofal ysbyty cymunedol sydd ei angen arnyn nhw. Rwy'n ddiolchgar i'r staff a'r ymgynghorwyr yn yr uned dibyniaeth fawr am y ffaith bod fy ngŵr yn dal yn fyw, ond rwy'n ofni ei fod yn lwcus o hynny ar ôl yr hyn y bu drwyddo yn yr adran achosion brys. Gobeithio y caiff yr e-bost hwn sylw er lles pob un ohonom ni sy'n byw yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.'
Galwaf am ddatganiad yn y cyd-destun hwnnw, nid yn unig am gyfanswm yr arian sy'n cael ei wario ond, yn y cyd-destun hwn, yn ymateb i awgrymiadau ynglŷn â sut y byddai modd gwario'r arian hwnnw'n well.