Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Ionawr 2020.
Hoffwn i godi dau fater, Trefnydd. Mae un ohonyn nhw yn edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r llygredd aer trychinebus y mae fy etholaeth i yn sicr yn dioddef ohono. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gyflymu'r newid i geir glân. Gwyddom fod diffyg pwyntiau ailwefru neu ail-lenwi yn gwneud pobl yn nerfus ynghylch newid i gerbydau trydan neu hydrogen, ond gwyddom fod 10 pwynt gwefru trydan newydd yn cael eu gosod bob dydd ledled y DU. Serch hynny, dywedodd un gwerthwr ceir o Gaerdydd wrthyf nad oedd unrhyw fannau ail-lenwi â hydrogen yng Nghymru, a bod yr un agosaf yn Swindon, ond gwn fod hynny'n anghywir. Os ydym yn cael yr anhawster hwnnw ymysg pobl sydd i fod cynghori pobl ar beth sydd orau i'w brynu, teimlaf fod angen inni gywiro hynny. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol ein bod ar flaen y gad o ran hydrogen o ffynonellau adnewyddadwy, o ganlyniad i waith ymchwil a gafodd ei gynnal ym Mhrifysgol De Cymru, ac maen nhw wedi gosod pwynt gwefru ar gyfer hydrogen ym Maglan. Mae o leiaf un cwmni wedi'i leoli yn Llandrindod ac sy'n arloesi cerbydau hydrogen wedi gosod un arall yn y Fenni. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut nad yw Cymru'n cael ei gadael ar ôl yn y chwyldro hwn a sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o bwyntiau ail-lenwi/ailwefru cerbydau trydan a hydrogen er mwyn adeiladu ar yr arbenigedd sydd gennym eisoes yng Nghymru ar dechnolegau'r dyfodol.
Yn ail, roedd yn ofid imi ddarllen ddoe fod heddlu gwrthderfysgaeth yn rhoi Extinction Rebellion yn y dosbarth o sefydliadau eithafol, gan ei roi ar yr un lefel ag eithafwyr adain dde neu grefyddol. Felly, a all Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd yn cyfarwyddo ysgolion i beidio â chyfeirio pobl ifanc sy'n pryderu am yr argyfwng hinsawdd at raglen Prevent, sydd eisoes wedi colli hygrededd, fel pe baen nhw'n risg i ddiogelwch, oherwydd rwy'n credu bod hyn yn gwbl groes i'r hyn y dylem ni fod yn annog pobl ifanc i'w wneud?