Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Ionawr 2020.
Wel, rwy'n gwybod bod codiad wedi bod yng nghyfanswm y cyllid y mae'r Gweinidog Iechyd wedi'i roi i'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond rwyf hefyd yn gwybod ei fod ef a'r Dirprwy Weinidog, rwy'n credu, yn mynd i'r pwyllgor iechyd yfory ar gyfer gwaith craffu. Felly, credaf y byddai hwn yn gyfle da i ymdrin â rhywfaint o'r manylder hwnnw gyda nhw.