2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 14 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:58, 14 Ionawr 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar frys gan y Gweinidog trafnidiaeth ynglŷn â'r pryderon ynglŷn â'r cwmni awyrennau Flybe? Mae yna awgrymiadau yn dod o San Steffan fod Llywodraeth Prydain yn ystyried rhyw fath o becyn ariannu ar gyfer y cwmni awyrennau, sydd yn bwysig iawn o ran Maes Awyr Caerdydd, yn cynnig nifer o hediadau i ag o Gaerdydd, ac wrth gwrs yn gyfrifol am y gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, sydd wedi dod yn bwysig i unigolion, i fusnesau ac o ran llywodraethiant Cymru, sydd yn bwysig iawn i'w gofio.

Rwy'n deall gan fy nghydweithiwr i yn San Steffan Jonathan Edwards AS ei fod o wedi gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth yno heddiw a oes yna unrhyw gyfathrebiad wedi bod gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r pryderon am Flybe. Mi ddywedodd y Gweinidog trafnidiaeth nad oes yna unrhyw beth wedi'i glywed gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â hynny. Dwi'n synnu rhywfaint am hynny. Ond, o ystyried pwysigrwydd y cwmni yma, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig rŵan yn egluro'n union y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a'r sicrwydd mae Llywodraeth Cymru yn chwilio amdano fo ynglŷn a'r dyfodol?