Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 14 Ionawr 2020.
Mae'r gwaith o gydgysylltu'r strategaeth hon wedi bod yn drawslywodraethol, a bu Gweinidogion yn cyfrannu ato. Ac rydych chi'n llygad eich lle: bu cynaliadwyedd yn ganolog i'r hyn y buom yn ceisio ei gyflawni yn hyn o beth. Bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn greiddiol, ac mae o wir ddiddordeb. Pryd bynnag y byddwn yn siarad â phobl o wahanol wledydd ar draws y byd, dyna'r peth y mae llawer ohonynt yn sôn amdano, sef ein bod yn wirioneddol unigryw, rydym yn arloesi, yn hyn o beth, ac maent i gyd eisiau dysgu mwy am yr agwedd benodol honno.
Ar agweddau eraill ar yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yn ymarferol, fe welwch chi yn y strategaeth y byddwn yn hyrwyddo prosiectau magned, ac un o'r prosiectau magned y byddwn yn ei hyrwyddo yw technoleg tonnau a llanw, a fydd yn symud y pwyslais, gobeithio, o ran mewnfuddsoddiad, i'r gogledd a'r gorllewin. Felly, mae hynny'n weithred fwriadol iawn. A'r peth arall y mae angen i chi ei ddeall yw bod lled-ddargludyddion cyfansawdd yn dechnolegol iawn, ond yr hyn y maen nhw'n ei wneud, mewn gwirionedd, yw arbed ynni. Maen nhw'n arbed ynni, ac mae'r effaith y gallant ei chael ar ganolfannau data, er enghraifft, o ran lleihau ynni, yn sylweddol. Ac felly mae hynny'n gwbl ganolog i'r agwedd honno yr ydym yn ceisio ei phwysleisio i bobl o ran ein hymrwymiad i gynaliadwyedd.
O ran masnach, rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod gennym y berthynas honno â Llywodraeth y DU cyn i drafodaethau masnach ddechrau, ac rydym yn dal i aros am ddyddiad; rydym yn gobeithio y caiff dyddiad ei gyhoeddi'r wythnos nesaf i ni ddechrau mewn difrif gwyntyllu manylion ymarferol ynghylch i ba gyfeiriad y dylem fod yn mynd nesaf. Ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn amddiffyn buddiannau Cymru. Mae'n anodd iawn canfod pryd y gallwn ddod i'r Cynulliad a dweud, 'Dyma beth yw ein strategaeth', oherwydd bydd amgylchiadau'n newid yn gyflym iawn, ac nid ydym yn gwybod o hyd beth yw rheolau'r ymgysylltu. Ac felly mae'n anodd iawn i ni wneud ymrwymiad i'r Cynulliad pan fyddwn ni mewn sefyllfa lle nad ydym yn gwybod ble yr ydym ni'n sefyll. Felly, byddaf yn ceisio rhoi gwybod i chi o ran pryd y cawn ni fwy o eglurder ynghylch sut y bwriadwn ymgysylltu â'r Cynulliad ynglŷn â hynny.
O ran y Cymry alltud, rwy'n credu bod hwn yn faes lle mae angen i ni wneud mwy o waith sylweddol. Rydym ni eisoes wedi comisiynu rhywfaint o waith ar sut y gallwn ni ymgysylltu'n ddigidol ar draws y byd, a sut orau y gallwn ni gael effaith a gwneud cysylltiad â phobl. Felly, mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi'i gomisiynu. Rydym ni wedi cael cyfarfodydd gyda'r bobl sy'n ymwneud â gwahanol gymunedau alltud, fel y gallwn ni dynnu ein gwaith ynghyd, ac rwy'n credu bod yna gyfle enfawr i ni yn hynny o beth. Mae pob un o'r swyddfeydd wedi cael y targed erbyn hyn o sicrhau eu bod yn datblygu'r rhwydwaith alltud hwnnw hefyd.
O ran hyrwyddo Cymru dramor, a'r Gymraeg dramor, rydym ni eisoes wedi comisiynu dogfen, a rhoddais gyflwyniad ar y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill i grŵp o lysgenhadon ac is-genhadon yn Llundain cyn y Nadolig. Ac un o'r pethau a ddangosais iddyn nhw oedd fideo wedi'i gomisiynu'n arbennig yn dangos yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gymraeg. Felly, mae hynny eisoes ar y gweill ac yn rhywbeth yr ydym ni eisoes yn ei ddefnyddio.
O ran targedau—gwrandewch, yn gyffredinol, rwy'n rhywun sy'n hoffi gweld targedau. Y broblem yw bod gennym ni sefyllfa yn y fan yma lle mae gennym ni amgylchiadau sy'n newid yn gyflym iawn. Ac felly, er mwyn i ni osod targedau, mae'n anodd iawn. A rhoddaf enghraifft i chi. O ran addysg, petaem yn dweud, 'Iawn, rydym ni eisiau gweld miloedd yn fwy o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd yn dod i astudio yng Nghymru', byddem wedi gosod y targed hwnnw'n rhy isel cyn—. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud nawr y caiff y myfyrwyr hynny aros am ddwy flynedd yn ychwanegol. Mae'n debyg bod hynny'n mynd i annog llawer mwy o fyfyrwyr i ddod. Felly, byddem wedi cyrraedd y targedau hynny'n llawer cynt nag y dylem fod wedi'i wneud. Dyna enghraifft o le mae'n mynd i fod yn anodd.
O ran mewnfuddsoddi, yn yr un modd, nes ein bod yn gwybod beth yw'r berthynas â'r Undeb Ewropeaidd, bydd yn anodd inni asesu i ba raddau y mae pobl yn debygol o fod eisiau buddsoddi yn ein gwlad. Ac nid wyf yn cytuno â'r ffaith nad yw'n ddogfen foesegol. Mae'r gwerthoedd yn gwbl greiddiol i'r hyn yr ydym yn ei gyflwyno yn y fan yma. Ac rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn ofalus iawn ynglŷn ag amddiffyn. Mae amddiffyn yn ddiwydiant pwysig yng Nghymru, ac mae awyrofod yn ddiwydiant pwysig. Mae gennym ni 160 o gwmnïau sy'n cyflogi 20,000 o bobl, yn y cwmnïau awyrofod ac amddiffyn. Rydych chi newydd glywed Dawn Bowden yn siarad ynghylch sut mae hi'n awyddus i weld y cerbydau y maen nhw'n eu cynhyrchu yn ei hardal yn cael eu defnyddio gan y lluoedd arfog. Felly, nid wyf yn credu y dylem osgoi'r ffaith mai un o'r rhesymau craidd dros Lywodraeth yw amddiffyn ei phobl, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth y byddem yn falch iawn o'i weld. Ac mae'r ffaith ein bod wedi rhoi seiberddiogelwch yn ganolog i hyn—. Mae seiberddiogelwch yn greiddiol i'r hyn y mae angen inni ei wneud nawr fel cenedl i amddiffyn ein GIG, i amddiffyn y gwaith a wnawn fel seneddwyr, oherwydd fe ymosodwyd eisoes ar Senedd Llywodraeth y DU. Felly, mae'r rhain yn faterion o bwys. Mae'r ffin rhwng amddiffyn a gwaith masnachol yn rhywbeth y mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol ohoni, ond mae llawer o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ac nid wyf yn credu y dylem ni ymbellhau oddi wrtho.