Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 14 Ionawr 2020.
Rydw i'n cael fy nhemtio i gario ymlaen efo'r drafodaeth yna, i ddweud y gwir, ar ôl cael trafodaeth efo fy mab ynglŷn â p'un ai i brynu'r FIFA diweddaraf er mwyn cael Aaron Ramsey mewn crys Juventus yr wythnos diwethaf. Penderfynwyd sticio efo'r hen fodel, efallai bydd rhaid i fi ailystyried.
Dwi jest yn mynd i siarad yn fyr iawn fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, ac estyn gwahoddiad, fel arfer, i holl Aelodau'r Cynulliad yma i ddod yn rhan o weithgareddau'r grŵp trawsbleidiol hwnnw. Dwi eisiau croesawu'r ffaith bod gennym ni rŵan strategaeth ryngwladol, a gwneud apêl ar i'r strategaeth honno—er mai rŵan rydym ni'n ei chael hi, mae'r inc yn dal yn gynnes arni hi—i fod yn strategaeth hyblyg, mewn difrif, ar gyfer blynyddoedd i ddod. Mae'n garreg filltir fod gennym ni'r strategaeth. Dwi'n rhoi teyrnged arall i Steffan Lewis, flwyddyn union bron iawn ers iddo fo ein gadael ni, a oedd mor frwd, wrth gwrs, dros gael Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol a strategaeth o'r math yma, ac mae o gennym ni rŵan o'n blaenau ni. Mae o mor hanfodol ein bod ni fel gwlad fach yn edrych allan i'r byd ac yn gwneud yn fawr o'r cyfleon sydd yna allan yna i gyrraedd ein potensial ni fel gwlad.
Yn wleidyddol, mae yna anghytuno yn y Senedd yma ynglŷn â sut i gyrraedd ein potensial o ran cyd-destun cyfansoddiadol. Dwi'n grediniol mai fel gwlad annibynnol yn ein hawl ein hunain y mae cyrraedd y potensial hwnnw. Mae eraill yn gweld cyfleon, wrth gwrs, fel yn y ddogfen yma, i chwilio am gyfleon newydd o hyd. Ond, mae'n rhaid i ni fod yn barod. Pan yn gweithredu'n rhyngwladol fel hyn, nid yw rhywun yn gallu bod yn ynysig. Mae'n rhaid ymateb i beth sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r byd a gweld sut mae Cymru'n gallu ffitio i mewn i batrymau eraill a cheisio dylanwadu ar eraill ar yr un pryd.
Gair yn sydyn iawn o ran diaspora: rydw i'n falch o weld ymrwymiad rŵan i weithio'n benodol efo y grwpiau diaspora sy'n gweithredu'n barod. Mae yna grybwyll GlobalWelsh yn y ddogfen ac wythnos Cymru yn Llundain. Mi wnâi ychwanegu at hynny—gan ddatgan diddordeb gan fod fy nhad wedi bod yn gadeirydd ar y mudiad sawl tro yn y gorffennol—mudiad Cymru a'r Byd, sydd, wrth gwrs, ers 70 mlynedd a mwy wedi bod yn gwneud cysylltiadau rhwng Cymru a Chymry alltud, neu'r Cymry ar wasgar fel roedden nhw'n arfer cael eu galw. Mae eisiau gwneud yn fawr o'r rhwydweithiau yna. Mi wnaf i ddyfynnu, i gloi, oddi ar wefan Cymru a'r Byd, geiriau Rhys Meirion, llywydd y mudiad hwnnw:
'Gyda balchder yn ein cymreictod a'n hunaniaeth Gymraeg, mewn byd sydd bellach mor fach, gallwn fod yn genedl fyd eang lle mae ganddom i gyd, yn Gymry brodorol neu'n Gymry rhyngwladol, gyfraniad pwysig i'w gynnig i'n gilydd fel Cymry, ac i Gymru ein mamwlad.'
Mae yna gyfle mawr i ni. Dwi'n falch fod gennym ni'r strategaeth yma, ond a gaf i'r sicrwydd yna y bydd hon yn ddogfen ac yn strategaeth ddeinamig wrth i ni symud yn ein blaenau?