Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 14 Ionawr 2020.
Mae ein hamser ar ben ar y datganiad hwn, ond fel y dywedodd Darren Millar, dyma'r strategaeth ryngwladol gyntaf yn ystod 21 mlynedd bodolaeth y lle hwn, felly byddai 10 munud arall, rwy'n credu, yn gymesur â hynny. Mae gennyf dri siaradwr arall i'w galw, ac os gallant fod yn weddol gryno, a chryno mewn atebion hefyd, yna gallwn glywed pawb sydd â diddordeb. Mick Antoniw.