Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch, Jayne. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod disgyblion awtistig mewn ysgolion yn cael eu cynorthwyo'n effeithiol i oresgyn unrhyw rwystrau i ddysgu a allai fod ganddynt. Bydd ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol uchelgeisiol yn ailwampio'r system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn llwyr, a byddant yn sbarduno gwelliannau ac yn codi ymwybyddiaeth o ADY i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial llawn.