Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Ionawr 2020.
Mae'r economegydd addysg blaenllaw Luke Sibieta yn bwrw ymlaen â dadansoddiad o sut y mae cyfanswm y gwariant a gwariant ar gategorïau gwahanol yn amrywio rhwng ysgolion o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru. Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwn wedi'i gyhoeddi, a'r bwriad yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau cyn toriad yr haf.