Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Ionawr 2020.
Weinidog, mae chwaraeon yn chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Fodd bynnag, mae plant ag awtistiaeth yn aml yn cael eu camddeall a gallant ei chael hi’n anodd cymdeithasu a chyfathrebu yn eu cymunedau ac yn eu hamgylchedd. O’r herwydd, gall diffyg ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith plant eraill arwain at ynysu neu fwlio pobl awtistig. Weinidog, pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi i sicrhau bod ein hysgolion yn mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth er mwyn hyrwyddo gwell goddefgarwch a dealltwriaeth o awtistiaeth yn ein hystafelloedd dosbarth? Diolch.