Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rydych chi'n iawn mai mater i brifysgolion ydy manylion, ond mae yna faterion o egwyddor pwysig yn fan hyn. Mae yna fwy nag un achos tebyg wedi cael ei dynnu at fy sylw i. Yn yr achos penodol yma, yr un diweddaraf, mae darpar fyfyriwr meddygaeth wedi cael gwybod na all hi gael ei derbyn ar y cwrs am nad oes ganddi hi radd B mewn Saesneg TGAU—C sydd ganddi hi; mae B ganddi hi yn ei hiaith gyntaf hi, sef Cymraeg. Rŵan, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrthym ni fod yna amryw gyrsiau eraill lle mae'r gofynion mynediad yn gofyn am C mewn Cymraeg neu Saesneg.
'Mi fyddwn ni'n gofyn am eglurhad pam fod angen B yn Saesneg yn benodol, a pham na fyddai B yn y Gymraeg yn ddigonol am y rhesymau hyn hefyd.'
Mae'n gwneud y pwynt bod hyn yn arbennig o wir o ystyried yr angen sy'n bodoli am ragor o weithwyr gofal sylfaenol sydd â sgiliau yn y Gymraeg. Fe ddywedodd y Coleg Cymraeg wrthyf i, ym marn y coleg, dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal o ran y gofyniad yna, a byddan nhw'n mynegi hyn i'r brifysgol. Ydych chi'n cytuno efo'r egwyddor honno, y dylai'r ddwy iaith gael eu trin yn gyfartal yng Nghymru ar gyfer cwrs sy'n darparu ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?