Trosglwyddo Cleifion

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:26, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i David Rees am ei gwestiwn. Fel y Gweinidog, rwy’n cael trafodaethau rheolaidd am y materion hyn gyda phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cyfarfodydd ym Mae Abertawe yr wythnos diwethaf. Mae'n hanfodol atal derbyniadau diangen, a throsglwyddo pobl o'r ysbyty i'w cartrefi neu leoliadau cymunedol cyn gynted ag y byddant yn barod.