Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Ionawr 2020.
Mae Angela Burns yn llygad ei lle, ceir anawsterau weithiau mewn perthynas â'r gwahanol elfennau hynny o gyllid. Ond mae'n gwbl hanfodol fod y claf, yr unigolyn, yn gwbl ganolog i'r ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud. A gwn fod rhai prosiectau, o dan y cyllid trawsnewid, wedi edrych ar sut y gall hynny ddatblygu, a gobeithiaf y bydd modd i ni ddysgu drwy hynny. Mae gofal parhaus yn un mater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef, a chredaf ein bod wedi cael datganiad ar hynny'n weddol ddiweddar, a gwn ein bod yn edrych ar rai elfennau o ofal cymunedol ac yn eu hadolygu.