Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:31, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A yw’r Gweinidog yn cytuno â’r datganiad a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe mewn ymateb i gwestiynau gan Adam Price, wrth siarad am bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans? A dyfynnaf:

'Nid yw'r broblem yn un y gellir ei datrys yn nwylo'r gwasanaeth ambiwlans yn unig... Mae'n fater systemau cyfan, lle mae'n rhaid i ni allu clirio pobl drwy'r system gyfan, fel y bydd lle wrth y drws ffrynt pan fydd y system yn dod dan bwysau, fel sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf.'

Ac a yw’n disgwyl i ni gredu’r Prif Weinidog pan ddywedodd y Prif Weinidog wrth Adam Price:

'rŷn ni wedi datrys y broblem... ac mae'r sefyllfa lot yn well nag yr oedd hi pan roeddwn i'n dod i ddechrau fel Gweinidog dros Iechyd'?

Oherwydd buaswn yn awgrymu, Lywydd, nad dyna yw profiad fy etholwyr sy'n cael eu gwasanaethu gan fyrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Hywel Dda.