Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 15 Ionawr 2020.
Wel, y broblem, wrth gwrs, Lywydd, yw nad oes unrhyw un yn amau'r Gweinidog pan fo'n dweud y pethau hyn, ond y broblem yw ei fod wedi bod yn dweud amrywiaeth ohonynt, ac mae ei ragflaenwyr wedi bod yn dweud amrywiadau ar y thema. Efallai'n wir, ac nid wyf yn cwestiynu ei ffigurau, fod gennym, er enghraifft, nifer anarferol o gleifion agored i niwed, ond mae hynny'n arwain at y cwestiwn pam fod y cleifion hynny'n dod mor agored i niwed, pam nad ydynt yn derbyn y gofal yn y gymuned y dylent fod yn ei gael, a daw â ni'n ôl at holl fater y methiant llwyr i sicrhau dull system gyfan.
Mae angen i ni ddweud yn glir iawn, Lywydd, nad ymosodiad ar y staff mo hwn. Gwyddom fod y staff yn gwneud gwaith rhagorol. Gwyddom hefyd fod awdurdodau lleol, mewn rhai lleoedd, yn cydweithredu'n dda neu ddim cystal â'u byrddau iechyd lleol, a lle maent yn cydweithredu'n dda, fod hynny'n sicrhau newid. Ond fy nghwestiwn fyddai: ble mae'r arweinyddiaeth genedlaethol i ddarparu'r newid hwnnw ar raddfa fwy? Nawr, heb os, bydd y Gweinidog yn siarad eto am y gronfa trawsnewid, ond hoffwn atgoffa'r Siambr eto ei fod ef neu ei blaid wedi bod yn gyfrifol am hyn ers 20 mlynedd, ac nid yw'r hyn a ddywedodd y prynhawn yma yn rhoi mwy o sicrwydd i mi na'r holl bethau eraill y mae wedi'u dweud dros y blynyddoedd blaenorol.
Ond hoffwn ddychwelyd at un peth penodol. Felly, mae'r Gweinidog newydd gydnabod, fel y dywedodd y Prif Weinidog, mai un o'r problemau mewn perthynas â rhyddhau cleifion o ambiwlansys i ysbytai—un o'r rhesymau dros y pwysau—yw bod angen dull system gyfan. Felly, rwy'n synnu braidd yn hynny o beth fod y Gweinidog wedi penderfynu sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arall eto fyth i adolygu'r gwasanaeth ambiwlans. Os nad yn y gwasanaeth ambiwlans y mae'r problemau mewn gwirionedd, ond mewn gofal cymdeithasol, gydag oedi wrth drosglwyddo gofal—a'r capasiti sydd wedi'i ddileu o'r system, buaswn yn dadlau—pam y bydd cael adolygiad arall eto fyth o'r gwasanaeth ambiwlans yn ddefnyddiol, rhywbeth y mae wedi dweud wrthyf ar adegau eraill ei fod yn berffaith iawn? Rwyf wedi drysu braidd.
Nid oes gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud i amddiffyn y penderfyniad, a bod yn gwbl onest. Ond yr hyn y buaswn yn ei ofyn iddo'n ffeithiol yw: pwy fydd aelodau'r adolygiad gorchwyl a gorffen hwn? Mae wedi dweud wrthym pwy fydd y cadeirydd a'r is-gadeirydd—neu gyd-gadeiryddion, rwy'n ymddiheuro. Wel, pwy fydd yr aelodau? Sut y bydd llais cleifion, ac yn enwedig y cleifion mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn a phobl ag anableddau dysgu, yn cael ei glywed yn yr adolygiad? A phryd y mae'n disgwyl iddo adrodd? Oherwydd credaf fod pob un ohonom yn colli amynedd gydag adolygiadau a grwpiau gorchwyl a gorffen. Yr hyn yr hoffwn ei weld yw Gweinidog iechyd sy'n barod i wneud penderfyniad.