Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:33, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Hoffwn pe gallwn ei alw'n ddigonol; mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl ar ddatganiadau'r Gweinidog ynghylch pwysau'r gaeaf dros y tair blynedd diwethaf, ac mae bob amser yn dweud yr un pethau. Mae bob amser yn sôn am norofeirws a'r ffliw, ac mae'n dweud yr un pethau pan fo gennych flwyddyn heriol iawn, pan fo gennych lawer o norofeirws neu'r ffliw mewn gwirionedd, ac mae'n dweud yr un pethau pan nad yw'r sefyllfa, fel eleni, mor heriol â hynny.

Nawr, efallai ei fod yn gywir fod rhai agweddau ar y gwasanaeth mewn gofal heb ei drefnu wedi gwella ers cyfnod y Prif Weinidog, ond un peth sydd heb ei ddatrys yw'r rhyng-gysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Nawr, Lywydd, gŵyr pob un ohonom fod Gweinidogion Cymru yn ein Senedd wedi bod yn gyfrifol am y portffolios iechyd a gofal cymdeithasol am yr 20 mlynedd diwethaf. A all y Gweinidog ddweud wrthyf, a all roi sicrwydd i ni heddiw, na fyddwn yn cael yr un sgwrs ymhen blwyddyn arall, heb sôn am ymhen 20 mlynedd arall?