Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 15 Ionawr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am hynny, a gwn fod y Gweinidog wedi dangos ymrwymiad personol mawr iawn i ddarparu lefel uchel o wasanaethau o ansawdd uchel i bobl a theuluoedd ag awtistiaeth. Hoffwn ofyn iddo adolygu'r ffordd y caiff y polisïau hynny eu cyflawni ym Mlaenau Gwent. Rwy'n clywed yn fy nghymorthfeydd bob wythnos am anawsterau y mae teuluoedd yn eu cael i gael mynediad at wasanaethau. Rwy'n cydnabod nad yw hyn yn digwydd ledled y wlad, ond buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog gomisiynu adolygiad o ddarpariaeth y gwasanaethau hyn ym Mlaenau Gwent i sicrhau bod ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn cyfateb i ansawdd gorau'r ddarpariaeth ledled y wlad.