Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 15 Ionawr 2020.
Gwnaf, wrth gwrs. Mae hyn yn newyddion hynod siomedig, ac rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Ymwelodd fy swyddogion â safle Glannau Dyfrdwy ddoe, ac rydym yn canolbwyntio bellach ar berswadio'r cwmni i gadw'r safle yng ngogledd Cymru. Rydym yn darparu'r holl gefnogaeth sy'n bosibl i'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn.