Colledion Swyddi Mondi

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:24, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddiddorol fod y cwmni'n nodi'r ffaith bod newid wedi bod yn y galw am y cynhyrchion arbenigol. Nawr, mae hynny'n arwain at gwestiwn ehangach, wrth gwrs—ym mha ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru helpu cwmnïau i ddiogelu eu busnes at y dyfodol, o gofio, wrth gwrs, fod galwadau cymdeithas, a thueddiadau defnyddwyr os mynnwch, yn newid, yn enwedig yng nghyd-destun yr amgylchedd. Tybed beth y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi rhai o'r cwmnïau sydd efallai'n gweld yr heriau hyn ar y gorwel.

Byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn clywed a yw Mondi wedi egluro pam eu bod yn gadael y DU. Pam atgyfnerthu y tu allan i'r DU? Pa ffactorau sydd wedi llywio'r penderfyniad penodol hwnnw? Hefyd, a oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod risg i'r swyddi hyn, oherwydd fy nealltwriaeth i yw eu bod wedi wynebu problemau yno flwyddyn neu ddwy yn ôl, a daeth y gweithlu i'r adwy bryd hynny? Tybed, yn y cyfamser, a yw'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni i geisio diogelu'r swyddi hynny. Ac os oeddech yn ymwybodol fod y swyddi mewn perygl, efallai y gallech ddweud wrthym beth a wnaethoch ynglŷn â hynny.