Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 15 Ionawr 2020.
A gaf fi ddiolch i Russell George a dweud i ddechrau, 'Ydi, mae fy asesiad i heddiw yr un fath ag yr oedd yr wythnos diwethaf, yn awr bod Llywodraeth y DU wedi achub cwmni hedfan, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru achub maes awyr pwysig flynyddoedd yn ôl'? Ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn Llywodraeth ymyraethol erbyn hyn, gan ddilyn ôl troed Llywodraeth Cymru. Cynhelir trafodaethau'n rheolaidd rhwng y maes awyr a Flybe yn uniongyrchol, a Llywodraeth Cymru a'r maes awyr. Cafodd tua 310,000 o deithwyr eu cludo i ac o Faes Awyr Caerdydd yn y flwyddyn ddiwethaf—sef 310,000 o'r 1.7 miliwn, felly mae'n cael effaith sylweddol ar y maes awyr.
Pan gynhaliwyd diwydrwydd dyladwy ar gynnig y benthyciad, rhoddwyd ystyriaeth i senarios amrywiol, gan gynnwys cwymp rhai cwmnïau hedfan, ac roeddem yn hyderus, yn seiliedig ar ein hasesiad, y byddai colli Flybe yn dal i ganiatáu i'r maes awyr weithredu mewn modd hyfyw a chynaliadwy. Fodd bynnag, byddai nifer y teithwyr yn llawer llai, a byddem yn dymuno gweld niferoedd y teithwyr yn parhau i dyfu yn hytrach na gostwng, a dyna pam fy mod mor falch o glywed canlyniad y trafodaethau a fu rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni hedfan.
Ond gallai'r Llywodraeth yn San Steffan wneud mwy i gynorthwyo o ran y cymhellion ariannol y mae Russell George wedi gofyn cwestiynau amdanynt heddiw. Yn union fel y mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi'i argymell, gallai Llywodraeth y DU ddatganoli tollau teithwyr awyr i Gymru, a gallai Llywodraeth Cymru wneud penderfyniad wedyn ynglŷn â sut y mae'n defnyddio tollau teithwyr awyr er mwyn cymell pobl i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd a llwybrau ohono, yn ogystal â'r newid sydd angen i gwmnïau hedfan ei wneud o awyrennau llygredig iawn i awyrennau llai llygredig. Gallem fodelu cyfundrefn o dollau teithwyr awyr sy'n caniatáu inni gymell cwmnïau hedfan sy'n gweithredu'r awyrennau lleiaf llygredig i ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd.
Mae'r camau pellach y gellid eu cymryd i wella'r amrywiaeth o lwybrau teithio a gynigir o Faes Awyr Caerdydd yn cynnwys cymorth ar gyfer y llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rydym wedi'u hargymell i Lywodraeth y DU, ond hyd yma mae wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i'w hargymell i'r Comisiwn Ewropeaidd. Pe bai'n cefnogi'r llwybrau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus hynny, byddai cynnydd sylweddol yn nifer y teithwyr yn cael ei chwistrellu i fodel busnes y maes awyr.
Rwy'n hyderus—yn seiliedig ar dwf o dros 34 y cant mewn refeniw yn y flwyddyn ddiwethaf ac enillion cadarnhaol cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad am yr ail flwyddyn yn olynol—fod y maes awyr mewn sefyllfa gref iawn. Ond mae'r sector hedfan yn ei gyfanrwydd yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd, a dyna pam ei bod yn hollol iawn fod Llywodraeth y DU yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fel y dangoswyd ddoe, yn barod i helpu'r sector.
Mae'n gwbl hanfodol o ran twf economaidd. Mae'n hanfodol o ran darparu swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol, megis y 2,500 y mae Maes Awyr Caerdydd yn eu cynnal yn ne Cymru. Ac mae'n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau yng Nghymru a'r DU wedi'u cysylltu'n well nag y byddent fel arall heb y meysydd awyr hyn. Er enghraifft, a fyddai Maes Awyr Ynys Môn yn hyfyw heb Faes Awyr Caerdydd? Rwy'n amau hynny'n fawr, Lywydd.