Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Ionawr 2020.
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gwestiynau? Yn gyntaf oll, o ran y sefyllfa ar safle Mondi, byddwn yn gweithio gyda rheolwyr y cwmni—rydym eisoes wedi cysylltu; rydym wedi ymweld â'r safle—byddwn yn gweithio gyda'r awdurdod lleol, ac rydym yn gweithio gyda chynrychiolwyr staff drwy'r undebau, drwy gydol y cam ymgynghori sydd bellach ar y gweill, ac rydym yn gobeithio dod o hyd i ateb a fydd yn arwain at gynnal y gweithgarwch ar y safle yn y dyfodol. Nawr, er ein bod yn gobeithio y gellir osgoi cau'r safle, rydym yn barod i weithio, gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, gyda'n tîm ReAct ein hunain a chyda rhanddeiliaid perthnasol eraill, i ddarparu pecyn cymorth cynhwysfawr i weithwyr os na ellir achub y safle.
Cysylltwyd eisoes â'r Ganolfan Byd Gwaith a Chyngor Sir y Fflint, a byddant yn darparu cefnogaeth a chyngor drwy'r gwasanaeth ymateb cyflym rydym bellach wedi'i sefydlu yng ngogledd Cymru. Rwy'n falch o ddweud bod Mondi eisoes wedi dweud y byddant yn cynnal diwrnod recriwtio swyddi gyda chyflogwyr lleol fel rhan o'r mesurau cymorth diswyddiadau cyflym os cadarnheir y bydd y safle'n cau. Byddwn yn gweithio'n agos iawn i gefnogi'r gwaith hwn, ac os bydd angen, i drafod unrhyw ddefnydd pellach ar y cyfleuster yng Nglannau Dyfrdwy yn y dyfodol.
O ran buddsoddiad ehangach yn ardal Glannau Dyfrdwy, wrth gwrs, mae canolfan logisteg Heathrow yn cynnig cyfle gwych i ddarparu gwaith cynaliadwy o ansawdd uchel i lawer o bobl yr ardal, a buaswn yn cytuno â Jack Sargeant drwy ddweud bod ail gam y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch—sef cam 2 yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch—yn gwbl hanfodol i hyrwyddo'r ardal a'r rhanbarth fel canolfan ragoriaeth ym maes electroneg. Rydym yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hynny ar gyfer yr athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch ar fyrder.
Dylwn ddweud hefyd i gloi, o ran y galw am sgiliau yn yr ardal, fod niferoedd cyflogaeth mor uchel yn Sir y Fflint erbyn hyn—Sir y Fflint, Lywydd, sydd â'r gyfradd gyflogaeth uchaf yng Nghymru, a'r gyfradd ddiweithdra isaf ar 2.3 y cant yn unig, sy'n golygu bod cryn alw yn yr ardal am bobl fedrus. Fel rhan o'r gwaith y byddwn yn ei wneud gyda'r cwmni ei hun, byddwn yn cynnal archwiliad sgiliau o'r gweithlu i sicrhau, pe bai'r safle'n cau, y bydd modd paru'r bobl a gyflogir gan Mondi cyn gynted â phosibl â gwaith priodol mewn mannau eraill—er enghraifft, yn KK Fine Foods efallai, lle rydym, yn y 24 awr ddiwethaf, wedi gallu cyhoeddi y bydd 40 o swyddi eraill yn cael eu creu gyda buddsoddiad o ychydig dros £0.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru.