6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:30, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n gwybod na fydd gennyf amser i ystyried cyfraniadau pawb, ond rwy'n ddiolchgar hefyd am y cyfoeth o gyfraniadau a gawsom a'r cyfoeth o ddiddordeb a fu yn y ddadl hon heddiw. Mae’n dangos y pwyslais y mae pawb ohonom yn ei roi ar ein hanesion ein hunain a'n fersiwn ein hunain o hanesion, ac rwy’n tybio mai dyna lle rwy'n credu y byddai'r Gweinidog yn dweud y byddai'n anodd rhoi llinell o dan yr agweddau pwysicaf. Ond rwy'n credu ein bod yn ceisio bod o gymorth wrth ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru er enghraifft, y gallai fod gennych gyfoeth o dalent ac adnoddau i allu dysgu mater penodol oherwydd ei fod yn rhan o'r cynefin, oherwydd ei fod rhan o wleidyddiaeth leol yr ardal, ond mewn rhan arall o Gymru, efallai na fydd modd trosglwyddo'r un math o ddysgu. 

Rwy'n teimlo fy mod i wedi dysgu hyn fwyaf gan y rhai a ddaeth atom o'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig, gan Race Council Wales a'r Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid. Ac rwy'n teimlo weithiau ein bod ni'n siarad o sefyllfa freintiedig, oherwydd gallwn rygnu ymlaen am hyblygrwydd, ond os nad oes gennych athrawon o'r gymuned benodol honno yn yr ystafelloedd dosbarth gyda'r cefndir hwnnw, mae’n ddigon posibl na fyddwch yn cael eich addysgu am y terfysgoedd hil neu sut y mae trefedigaethedd yn gweithio. Ni chefais fy nysgu erioed am y modd y gwnaethom gymryd rhan yn y broses o ddinistrio gwledydd ym mhob rhan o’r byd fel rhan o ymerodraeth Prydain, ac rwy'n credu bod cael llinyn yn bwysig oherwydd fy mod eisiau bod yn sicr y bydd ysgolion ledled Cymru yn cael elfen o hynny o leiaf.

Oherwydd fe wyddom bellach, er mor anhygoel fydd rhai o'r athrawon hyn, mewn amryw o wahanol bynciau efallai na fyddant yn ymwybodol neu, oherwydd nad ydynt wedi cael y profiad byw hwnnw, efallai na fyddant yn gallu trosglwyddo hynny. Ac mae athrawon yn dweud hynny wrthyf trwy'r amser hefyd: 'Nid wyf yn teimlo'n hyderus fy mod yn gallu gwneud y math hwnnw o hanes neu drosglwyddo'r math hwnnw o hanes i'r bobl rwy'n eu dysgu.' Ond nid yw hynny’n dweud nad ydynt yn dda; dim ond cydnabod y gallai fod angen mwy o adnoddau arnynt neu fod angen mwy o gefnogaeth arnynt i gyrraedd y pwynt hwnnw, ac rwy'n ategu barn y pwyllgor y dylem gael mwy na'r hyblygrwydd hwnnw yn ein system addysg, oherwydd, yn y pen draw, fel y dywedodd rhai ohonoch, rwy’n credu, bydd angen cymwysterau arnom ar ddiwedd hyn. Bydd angen inni wybod sut y gallwn ni sicrhau wedyn fod holl fyfyrwyr Cymru yn gadael gyda'r cymhwyster sylfaenol hwnnw i fynd allan i'r byd go iawn a rhannu'r wybodaeth honno ag eraill. 

Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedwyd mewn perthynas â'r cwricwlwm ehangach, ond dywedais hefyd ar y dechrau yr hoffem ddychwelyd at hyn fel pwyllgor i edrych ar lenyddiaeth ac agweddau eraill ar y cwricwlwm; roedd amser yn brin yn hynny o beth. Er enghraifft, rwy'n gwybod yn yr ardal rwy'n ei chynrychioli, ym Mhort Talbot, fod rhai o'r cynghorwyr lleol wedi ariannu celf stryd yn yr ardal yn seiliedig ar stori Dic Penderyn. Nawr, nid oes a wnelo hynny â'r cwricwlwm hanes yn yr ystafell ddosbarth, ond mae a wnelo popeth â sut rydym yn ei ddysgu mewn ffordd wahanol iawn, mewn ffordd greadigol. Felly, peidiwch â meddwl ein bod wedi ei anwybyddu; dim ond hyn y llwyddasom i'w wneud o fewn yr amser a oedd gennym fel pwyllgor. 

Nid wyf yn siŵr bod gennyf lawer o amser ar ôl. Gwn i Mick Antoniw wneud pwyntiau cryf iawn mewn perthynas â materion cymdeithasol ac am y chwyldro diwydiannol. Gwn fod hynny'n rhywbeth y byddwn am ei rannu ledled Cymru a byddwn am herio athrawon yn ei gylch o ran sut y maent yn cysylltu hynny â gweddill y byd. Ond gwnaeth David Melding bwynt da iawn yn y pwyllgor, na ddylem edrych ar hyn fel dull system addysg yn unig, ond fel dull cyhoeddus. Mae yna oedolion yn awr nad ydynt yn deall llawer o agweddau ar eu hanes eu hunain. Sut y mae sicrhau y gallwn gyfleu'r hanes cyhoeddus hwnnw a'r ddealltwriaeth honno? 

Byddem yn disgwyl i Dai Lloyd fod yn angerddol am y meysydd y siaradodd amdanynt. Ond mae'n wir, wyddoch chi. Nid ydym eisiau gwleidyddoli'r iaith at ddibenion gwleidyddol, ond mae wedi dod o le gwleidyddol iawn, lle cafodd yr iaith ei llesteirio dros y blynyddoedd, ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni atgoffa cenedlaethau'r dyfodol yn ei gylch, neu ni fyddant yn gwybod yr hanfodion ynglŷn ag o ble y daeth.

O ran John Griffiths, nid wyf yn pryderu'n fawr pa un a ddylech ddechrau gyda lleoliaeth neu a ddylech ddechrau gyda materion rhyngwladol. Efallai y bydd yr ysgol am ganolbwyntio ar rywbeth nad yw'n lleol o reidrwydd. Ond rwy'n deall yr hyn rydych chi'n ei ddweud, os ydych chi'n dechrau'n agos iawn at adref, mae'n golygu rhywbeth diriaethol i chi, ac mae'n golygu rhywbeth y gallwch edrych arno ac ymweld ag ef. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt da iawn am yr adroddiad tlodi mewn perthynas ag amgueddfeydd a sut y gallwn blethu ymweliadau a phethau felly yn rhan o'n cwricwlwm yn llawer gwell, ac rwy'n gobeithio y bydd yr athrawon yn gwneud hynny. Mae Sain Ffagan eisoes yn adnodd anferthol i bobl fanteisio arno.

Yn gyflym felly, o ran yr hyn a ddywedodd Suzy Davies—a llongyfarchiadau i'ch mab ar ei radd, ar yr ymffrost mam, roedd hynny'n—. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi o ran manylebau, ac rwy'n deall bod angen inni sicrhau bod gennym ddealltwriaeth leol o'r hyn rydym yn ei addysgu yn ogystal.

I orffen: Russell George, diolch am gymryd rhan yn y ddadl ar y funud olaf. Y cyfan y buaswn yn ei ddweud efallai yw, os oes gennych gylchfannau i'w henwi ar ôl pobl ddylanwadol, gellid addurno un Laura Ashley â rhywbeth ychydig yn fwy diddorol na phorfa ac ychydig o lwyni. Mae hi'n frenhines ffasiwn, felly mae angen inni gael mwy.

Gwnaeth Leanne bwynt ar ei heistedd: rhaid inni feddwl hefyd faint o fenywod sy'n rhan o'n hanes. Cawsom lawer o enwau dynion yno, oni chawsom? Mae'n rhaid inni geisio cyfuno hyn rywfaint â'r modd y gall menywod dylanwadol chwarae rhan allweddol yn ein hanes a'r modd yr addysgwn am hanes Cymru. Rwyf am orffen ar hynny. Diolch yn fawr.