Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb ar ran y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor ar ddysgu hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru. Fel y nodwyd eisoes yn ystod y ddadl, rydym wedi derbyn pob un o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor, namyn un. Gallaf gadarnhau y bydd Estyn yn cynnal adolygiad o'r modd y caiff hanes Cymru ei addysgu, a chynhelir yr adolygiad hwn dros y misoedd nesaf, a llywir ei gylch gorchwyl gan argymhellion y pwyllgor.
Trof yn awr at faterion ehangach—y rhai a godwyd yn yr adroddiad ac yn y ddadl y prynhawn yma. Yn amlwg, mae hwn yn bwnc sy'n ennyn teimladau, safbwyntiau a dehongliadau cryf. A gadewch imi fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwbl ymrwymedig i ddull arloesol y cwricwlwm newydd o ymdrin â thema cynefin fel man cychwyn i astudio. Bydd yn rhedeg drwy bob un o'r meysydd dysgu a phrofiad. Bydd y dysgwyr yn cael sylfaen o ddealltwriaeth o'r hunaniaeth, y tirweddau a'r hanesion sy'n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin.
Wrth ysgrifennu am ddylanwad cyfoes parhaus y meddwl Cristnogol, ysgrifennodd yr hanesydd Tom Holland yn ddiweddar ei fod fel gronynnau llwch—mor fân nes bod yn anweledig, yn cael ei anadlu i mewn i'r un graddau gan bawb. Nid ddylai, ac ni all dadansoddi, deall a chwestiynu hanesion a straeon Cymru, ein cymunedau a'n cymdogion gael ei gyfyngu i wers hanes—bydd pawb ar draws y cwricwlwm yn ei anadlu i mewn. Felly, mae'n ddiddorol nodi, er bod y pwyllgor yn edrych ar ddysgu hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru, ni allwn ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at lenyddiaeth, chwaraeon, ffilm neu ddrama. Ac mae hynny'n drueni mawr, gan ei fod yn rhoi'r argraff mai mater i un wers ac un pwnc yn unig yw hanes—neu'n fwy cywir, hanesion.
Rwy'n disgwyl, yn y cwricwlwm newydd, y bydd hanesion Cymru'n cael eu datgloi, eu darganfod a'u dadansoddi, wrth i ddysgwyr gael eu hannog, er enghraifft, i archwilio Shakespeare neu R.S. Thomas a Mererid Hopwood, i graffu ar rôl chwaraeon fel mynegiant o hunaniaeth genedlaethol, neu wrthgyferbynnu a chymharu'r hanesion a bortreadir yn Pride â'r rhai yn House of America efallai. Nawr, nid diystyru hanes fel disgyblaeth yw hyn—rwy'n fyfyriwr hanes fy hun—ond fel y mae Sarah Morse, o Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi'i roi:
Nid hanes yw'r unig bwnc lle caiff naratifau a phrofiadau Cymru eu hadlewyrchu.
Ac mae'n anffodus nad oedd gan y pwyllgor ddigon o amser i gael yr ehangder a'r dyfnder llawn hwn.
Os caf droi felly at yr un argymhelliad a wrthodwyd gennym—sef rhestru digwyddiadau a phynciau allweddol i'w hastudio gan bob dysgwr. Nawr, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â sail resymegol y pwyllgor dros wneud yr argymhelliad hwn, ond wrth wraidd y cwricwlwm newydd mae'r egwyddor fod dysgwyr yn elwa pan fydd eu hathrawon yn cael hyblygrwydd i deilwra cynnwys gwersi i'w hanghenion ac i'w cyd-destun lleol. Er mwyn darparu'r hyblygrwydd hwn, mae angen inni sicrhau nad yw'r cwricwlwm wedi'i strwythuro fel rhestr ticio blychau o gynnwys i'w astudio.
A mawredd mawr, Ddirprwy Lywydd, nid oes ond angen inni wrando ar y cyfraniadau o amgylch yr ystafell y prynhawn yma i ddeall cymaint o broses fyddai rhestru'r union bynciau hynny. Ac a gaf fi ddweud, Russell George, nid oes dim i rwystro ysgolion cynradd y Drenewydd rhag siarad am eich arwyr lleol, ac yn sicr nid ydynt angen caniatâd gennyf fi i wneud hynny. Rhoddaf enghraifft i chi yn fy etholaeth fy hun, lle mae Cymdeithas Hanes Ystradgynlais wedi creu nifer o lyfrynnau am bobl o'r gymuned honno, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, ac wedi'u dosbarthu i ysgolion. Felly, yn sicr nid oes angen caniatâd arnynt yn y Drenewydd gan y Gweinidog addysg i fwrw iddi gyda'r gwersi hynny.