Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch. Dim ond cwestiwn, mewn gwirionedd. Os oes person sydd wedi gwneud honiad o drais rhywiol yn ne Cymru yn anhapus â'r ffordd y mae Heddlu De Cymru wedi eu trin a'u bod yn mynd i weld eu Haelod Cynulliad wedyn, er enghraifft, a ydych chi'n credu y dylai'r AC eu helpu? Beth y credwch y dylai'r AC ei wneud? A beth y credwch chi ddylai ddigwydd i'r AC os ydynt yn anwybyddu'r sawl sydd wedi dod atynt fel dioddefwr?