Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 15 Ionawr 2020.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Plaid Cymru wedi'i ddweud heddiw a'r hyn y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn i bobl yn y lle hwn dynnu sylw at y cyfraddau euogfarnu affwysol am drais a cham-drin rhywiol. Mae'r anawsterau sy'n wynebu dioddefwyr trais a cham-drin rhywiol yn hysbys iawn, ac mae'n ymddangos bod y sefyllfa'n waeth yn awr na 10 mlynedd yn ôl. Mae'r un mor ddrwg os nad yn waeth na phan oeddwn yn y brifysgol 20 mlynedd yn ôl.
Rhaid bod llawer o ddioddefwyr trais a cham-drin rhywiol yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu'n llwyr gan yr union bobl sydd i fod yno i'w hamddiffyn. Sut y mae'r dioddefwyr hynny'n teimlo pan welant fod trais a cham-drin rhywiol yn erbyn merched diamddiffyn yn Rotherham ac mewn mannau eraill yn mynd heb ei gosbi am flynyddoedd, neu'r troseddwyr yn cael dedfryd bitw? Sut y gallant deimlo'n hyderus y bydd cyfiawnder yn digwydd iddynt hwy pan fyddant wedi gweld dioddefwyr eraill yn cael cam mor ofnadwy?
Cytunaf â llawer o gynnig Plaid Cymru, a chytunaf â hwy fod cynyddu cyfraddau euogfarnu'n bwysig er mwyn atal trais a cham-drin rhywiol. Dim ond cyfran o'r achosion o drais a cham-drin rhywiol a gofnodir. O'r rheini, dim ond rhan fach iawn sy'n arwain at euogfarn. Mae hon yn broblem oesol y mae academyddion a chyfreithwyr ar ddwy ochr y ffin ac amryw o grwpiau menywod a phob math o bobl wahanol wedi bod yn ymgodymu â hi dros y degawdau. Felly, buaswn wedi hoffi gweld Plaid Cymru, yn rhan o'u cynnig, yn cyflwyno polisïau a newidiadau go iawn yn y gyfraith y gallem eu harchwilio ar gyfer gwella cyfraddau erlyn ac euogfarnu. Rwy'n gwybod eich bod wedi cyflwyno rhai awgrymiadau yn ystod y ddadl, ond mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n ddigon da, ac mae'r methiant i'w cynnwys yn y cynnig ond yn gwneud i'r cynigion ymddangos fel ôl-ystyriaeth braidd. Mae a wnelo craidd eich cynnig â datganoli. Mae'n ymddangos bod Plaid Cymru'n poeni mwy am wthio eu hagenda wleidyddol eu hunain. Mae eu cynnig yn gwneud dau gyfeiriad at gynyddu pwerau'r Cynulliad; nid yw'n cynnwys unrhyw awgrym go iawn a fyddai'n gwella cyfraddau canfod ac euogfarnu mewn achosion o drais rhywiol.
Mae trais a cham-drin rhywiol yn fater emosiynol iawn, a dyna pam y tybiaf fod Plaid Cymru wedi dewis y pwnc hwn i wyntyllu eu hymgyrch dros ddatganoli yn y dyfodol. Gallai Plaid Cymru fod wedi cyfeirio at nifer o droseddau, ond dewisasant y troseddau mwyaf emosiynol posibl, heb roi unrhyw sylw i ddioddefwyr a goroeswyr ar draws Cymru. Yn y bôn, mae'r cynnig hwn yn cyfleu neges i rai sydd wedi goroesi trais rhywiol eu bod yn fwy tebygol o weld cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn erbyn eu hymosodwr pe bai Cymru'n fwy annibynnol. Mae'r ddadl honno'n ddi-chwaeth, yn dwp ac yn ddi-sail. Di-chwaeth a thwp oherwydd bod dioddefwyr trais rhywiol yn cael eu defnyddio heb eu cydsyniad mewn dadl wleidyddol nad oes a wnelo hi ddim oll â hyrwyddo cyfiawnder iddynt hwy yn y bôn, ac yn ddi-sail am fod hanes yn dangos i ni, pan gaiff mater ei ddatganoli i'r Llywodraeth hon, mae'n gwaethygu yn hytrach na gwella. Mae addysg a'r GIG wedi cael eu datganoli i Gymru ers blynyddoedd, a gwelir bod pob blwyddyn yn waeth i bobl Cymru na'r addysg a'r GIG ym mhob gwlad arall yn y DU.
Beth amser yn ôl, gofynnais i'r Prif Weinidog a oedd yn cytuno â mi na ddylai'r llys teulu fyth roi hawliau i dadau plant a aned yn sgil trais rhywiol i weld y plant hynny. Am ryw reswm, gwrthododd gefnogi fy nghais—gwrthodiad y credaf y bydd unrhyw deulu gweddus, gweithredol yng Nghymru yn ei chael yn amhosibl ei ddeall. Heddiw mae gan Blaid Cymru gyfle i ddangos eu bod wedi ymrwymo o ddifrif i helpu dioddefwyr trais mewn ffordd bendant, a'ch bod yn defnyddio unrhyw bwerau ychwanegol a allai fod gan y lle hwn yn y dyfodol i atal treiswyr rhag cael cyswllt a dylanwad ar blentyn a gaiff ei genhedlu drwy drais rhywiol.
Os yw Plaid Cymru yn methu cefnogi gwaharddiad o'r fath yn glir heddiw yn eu hymateb i'r ddadl hon, bydd yn amlwg i bawb fod y cynnig hwn, fel rwy'n tybio, yn ymwneud mwy â hybu eu hawydd i fod yn annibynnol nag y mae â gwneud y peth iawn dros ddioddefwyr un o'r troseddau mwyaf creulon. Felly, Blaid Cymru, pe rhoddir y pŵer i'r lle hwn, a fyddech yn cefnogi gwahardd tadau plant a aned yn sgil trais rhywiol rhag dod o gysylltiad â'r plant hynny? Ac yn y cyfamser, a wnewch chi ategu fy ngalwad am gyflwyno gwaharddiad o'r fath? Bydd 'gwnawn' neu 'na wnawn' yn ddigon. Diolch.